Grŵp Trawsbleidiol ar Glefydau Seliag a Dermatitis Herpetiformis Cross Party Group on Coeliac Disease & Dermatitis Herpetiformis

 

Dyddiad ac amser:   Dydd Mawrth, 31 Ionawr, 12:00-13:00

 

Lleoliad:                   Zoom

 

Yn bresennol: Rhun ap Iorwerth – Cadeirydd (RaI), Tristan Humphreys – Ysgrifennydd/Coeliac UK (TH), Fiona Newsome (FN), Claire Constantinou (CC), Gwawr James (GJ), Ian Severn (IS), Dr Geraint Preest (GP) , Russell George (RG), Dr Jill Swift (JS), Dr Richard Cousins (RC), Eleanor Wilson (EW), Mark Isherwood (MI)

 

Rhif

 

 

Eitem

 

 

 

 

 

 

1

 

 

Ymddiheuriadau am absenoldeb:

 

 

Dr Ieuan Davies, Alison Jones, Rebecca Bowen, Llyr Gruffydd AS/MS

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cofnodion y cyfarfod diwethaf

 

 

 

a.  Newidiadau a chymeradwyo’r cofnodion

 

 

 

Cytunodd y grŵp fod y cofnodion yn gywir.

 

 

 

b.

Materion sy’n codi

 

 

 

Llythyr at y Gweinidog ynghylch: Prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion  cynradd (UPFSM)

 

 

 

Rhoddodd TH ddiweddariad ar y llythyr gan y Grŵp Trawsbleidiol at Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, ynghylch cael mynediad at y cynllun prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd (UPFSM), a chafwyd ymateb cadarnhaol.  

 

 

 

 

 

 

 

Diolchodd RaI i TH am y llythyr, gan bwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod yr addewidion hyn yn cael eu mynegi mewn du a gwyn.

 

 

 

 

 

 

 

 

Oedi cyn cyfarfod Llywodraeth Cymru ynghylch cymorthdaliadau ar gyfer bwyd heb glwten

2

 

 

Dywedodd TH wrth y grŵp fod y cyfarfod wedi'i ohirio tan ddechrau mis Chwefror, gan nodi y bydd y diweddariadau cysylltiedig yn cael eu rhannu yng nghyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Trafodaeth am gyfarfodydd

 

 

 

Gofynnodd RaI a oedd y grŵp yn fodlon gyda'r drefn o gynnal cyfarfodydd rhithwir. Dywedodd RG ei fod wedi bod i nifer o gyfarfodydd hybrid llwyddiannus. Serch hynny, nododd ei bod yn bwysig cael technegydd TG wrth law, rhag ofn bod problemau technegol yn codi.

 

 

 

 

 

 

 

Cytunodd y Grŵp fod lefelau presenoldeb yn well ar gyfer digwyddiadau rhithwir, ond nododd hefyd ei fod yn braf gweld pobl yn y cnawd. Awgrymodd RaI y dylai'r cyfarfodydd barhau i gael eu cynnal ar-lein, ond mewn achosion lle byddai'n ddefnyddiol cyfarfod yn y cnawd, byddai modd trefnu hynny.

 

 

 

Y farchnad bwyd heb glwten

 

 

 

Rhannodd IS wybodaeth â’r grŵp am y Farchnad Bwyd Heb Glwten yng Nghaerdydd ar 3 Mehefin, lle bydd 30-40 o gynhyrchwyr yn bresennol yn y Corner Stone Centre ger Marks & Spencer.

 

 

 

 

 

 

 

Cytunwyd y byddai'r wybodaeth hon yn cael ei hanfon at Coeliac UK, gyda’r nod o’i dosbarthu i'r grŵp ar ôl ei chadarnhau.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

04/05/2022                                                                                                                                                            Tudalen 1 o 4


Cyfarfod cyffredinol blynyddol

 

a.  Ethol swyddogion

 

3                   Cafodd RaI ei ailethol yn Gadeirydd y grŵp (Enwebwyd gan: MI; Eiliwyd gan: MH). Cafodd TH o Coeliac UK ei ailethol yn ysgrifennydd y grŵp (Enwebwyd gan: MI; Eiliwyd gan: MH).

 

 

 

b.   Cymeradwyo'r datganiad ariannol

 

Cymeradwywyd y datganiad ariannol. Eglurodd TH mai crynodeb yn unig oedd yr adroddiad o'r cyfarfodydd blaenorol, ac ni fu unrhyw wariant uniongyrchol.

 

Cost, mynediad ac argaeledd

 

a.  Cyflwyno canfyddiadau rhagarweiniol prosiect cost Coeliac UK (FN)

 

Rhoddodd TH ychydig o wybodaeth gefndir byr am brosiect costau bwyd heb glwten Coeliac UK, sy’n edrych ar y faich ariannol sy’n gysylltiedig â bwyd heb glwten. Soniodd fod yr argyfwng costau byw yn ffocws penodol ar gyfer yr elusen, gyda gwaith parhaus yn mynd rhagddo yn y maes hwn hyd at 2023. Bydd y ffocws cychwynnol ar ragnodi, gan ganolbwyntio’n bennaf ar Loegr yn sgil penderfyniadau comisiynwyr i dynnu darpariaeth yn ôl yn y blynyddoedd diwethaf. Bydd yr ail gam yn canolbwyntio ar ymgysylltu â manwerthwyr, a bydd y gwaith hwn yn gysylltiedig â'r cynllun cerdyn cymhorthdal yng Nghymru. Bydd yr adroddiad ar gostau i'w gyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf.

 

 

Rhoddodd FN gyflwyniad ar ganfyddiadau Coeliac UK, gan gynnig rhannu’r adroddiad wedi iddo gael ei gyhoeddi.

 

b.  Cwestiynau ac atebion

 

4            Pwysleisiodd CC bwysigrwydd mynediad ac argaeledd, a gofynnodd beth mae Coeliac UK yn ei wneud i fynd i’r afael a’r materion hyn. Soniodd FN fod y gwaith ar gostau yn rhan o brosiect ehangach sy'n edrych ar gostau, mynediad ac argaeledd a fydd yn cael ei archwilio'n fanylach yn ail gam yr ymgyrch. Dywedodd TH wrth y grŵp fod Coeliac UK yn bwriadu cynhyrchu arolwg ynghylch mynediad ac argaeledd mewn archfarchnadoedd. Bydd yn gofyn i gefnogwyr fynd i archfarchnadoedd i gwblhau'r arolwg. Bydd y gwaith hwn yn cyd-fynd ag ail gam y gwaith ymgysylltu â manwerthwyr.

 

Gofynnodd RaI sut y gallai'r Grŵp Trawsbleidiol gefnogi'r adroddiad ar gostau, a gofynnodd ac a ddylai'r grŵp fod yn paratoi i ymuno â'r ymgyrch. Dywedodd CC y byddai'n dda cael y byrddau iechyd i gymryd rhan yn y broses o hyrwyddo'r arolwg. Dywedodd RaI y gallai'r grŵp ddrafftio llythyr, i’w anfon gan RaI at y Byrddau Iechyd, yn gofyn iddynt hyrwyddo'r arolwg a rhannu gwybodaeth.

 

Cytunodd TH, a dywedodd y byddai Coeliac UK yn rhannu'r adroddiad â’r grŵp. Pwysleisiodd yr her sy’n gysylltiedig â fframio’r gwaith ymgysylltu yng Nghymru yn sgil yr atebion polisi gwahanol sy’n bodoli ar draws y DU. Fodd bynnag, dywedodd y byddai’r data’n ddefnyddiol ar gyfer llywio lefel y cymorthdaliadau o ran y cymhorthdal bwyd heb glwten yng Nghymru.

 

 

 

26/04/22                                                                                                                                                                Tudalen 2 o 4


 

 

 

Tynnodd GP sylw at bwysigrwydd atgyfnerthu rolau meddygon a chlinigwyr,

 

a phwysigrwydd cydymffurfio ag anghenion dietegol, yn enwedig ymhlith gleifion y mae eu symptomau yn ysgafn. Mae cost yn chwarae rhan sylweddol o ran ymlyniad, a gall hyn arwain at ganlyniadau hirdymor i'r claf a'r GIG.

 

 

 

Roedd GP am wybod a fyddai modd i ddarparwr dielw ddod o hyd i gynnyrch GF mewn swmp ac yna ei ddarparu'n rhad.

 

 

 

Cytunodd CC â syniad GP, a gofynnodd a oedd Coeliac UK wedi cysylltu ag Ymddiriedolaeth Trussell er mwyn canfod nifer y bobl sy'n ceisio cael mynediad at fwyd heb glwten o fanciau bwyd a faint o fwyd sy'n addas at y diben. Ategodd RaI hyn, a gofynnodd a oedd unrhyw waith wedi'i wneud ar y cysylltiad rhwng cael diet heb glwten a thlodi.

 

 

 

Rhoddodd TH sicrwydd fod y mater hwn ar agenda Coeliac UK, gan nodi ei fod wedi trefnu cyfarfod ag Ymddiriedolaeth Trussell yn ystod yr wythnos i ddod. Tynnodd sylw hefyd at waith yr elusen mewn perthynas â datblygu adnoddau ar gyfer banciau bwyd sy’n ymwneud â chael diet heb glwten.

 

 

 

Cytunodd y grŵp fod angen i'r bobl sy’n fwyaf agored i niwed fod â’r gallu i gyrchu bwyd heb glwten. Gofynnodd RaI a fyddai modd i TH roi diweddariad ynghylch y cyfarfod gyda TT yn ystod y cyfarfod nesaf, a hynny er mwyn gweld beth allai'r grŵp ei wneud i helpu. Gofynnodd CC a fyddai modd i TT ddosbarthu taflenni ar gyfer cynhyrchion heb glwten, a gofynnodd sut y byddai modd defnyddio apiau fel 'Olio' a 'Too Good To Go' i gefnogi’r gymuned

seliag.

 

 

 

Gweithgarwch Seneddol

 

a.  Y wybodaeth ddiweddaraf am ail-sefydlu’r Grŵp Hollbleidiol Seneddol yn San Steffan

 

Dywedodd TH fod y grŵp yn lansio ymchwiliad ar ddiagnosis yn yr wythnosau nesaf, ac y byddai unrhyw un sydd am gymryd rhan yn destun galwad am dystiolaeth

 

Bydd sesiynau tystiolaeth yn cael eu cynnal yn San Steffan, gyda’r bwriad o gyhoeddi adroddiad cyn toriad yr haf. Bydd y gwaith yn canolbwyntio’n bennaf ar y gwasanaeth iechyd yn Lloegr. Serch hynny, bydd llawer o’r gwaith yn croesdorri, a bydd y gwaith hwn yn berthnasol i’r DU gyfan.

 

ac y byddai unrhyw un sydd am gymryd rhan yn destun galwad am dystiolaeth.

 

 

Bydd sesiynau tystiolaeth yn cael eu cynnal yn San Steffan, gyda’r bwriad o

 

gyhoeddi adroddiad cyn toriad yr haf. Bydd y gwaith yn canolbwyntio’n bennaf ar

5

y gwasanaeth iechyd yn Lloegr. Serch hynny, bydd llawer o’r gwaith yn croesdorri, a bydd y gwaith hwn

yn berthnasol i’r DU gyfan.

 

 

b.  Digwyddiad yn Senedd yr Alban

 

Dywedodd TH wrth y grŵp fod Coeliac UK yn gobeithio sicrhau bod Grŵp Trawsbleidiol yn cael ei sefydlu yn yr Alban, a bod digwyddiad yn ymwneud â diagnosis yn cael ei gynnal ar 9 Mawrth, gan gynnwys sgyrsiau gan Coeliac UK, hyrwyddwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd, a chynrychiolwyr cleifion. Dywedodd RaI ei fod yn croesawu unrhyw syniadau ar gyfer ymchwiliadau i feysydd penodol, a holodd am y ffyrdd y gallai'r Grŵp Trawsbleidiol ryngweithio â'r grwpiau cyfatebol yn yr Alban a Lloegr.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Unrhyw fater arall

 

6                  Rhoddodd TH wybod i'r grŵp y byddai Wythnos Ymwybyddiaeth yn cael ei chynnal rhwng 15 a 21 Mai, gyda ffocws ar ddiagnosis.

 

 

Soniodd JS ei bod bellach wedi ymddeol, ac mai hwn fyddai ei chyfarfod olaf. Diolchodd RaI a TH iddi am y gefnogaeth sylweddol y mae hi wedi'i darparu dros y blynyddoedd.

 

7                Dyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol

 

Dywedodd RaI y byddai dyddiad yn cael ei rannu yn agosach at yr amser

 

 

 

26/04/22                                                                                                                                                                Tudalen 3 o 4


 

 

 

 

 

 

 

 

 

Camau i’w cymryd

Aelod

 

Rhannu gwybodaeth am y Farchnad Bwyd Heb Glwten â Coeliac UK,

i’w dosbarthu i bawb

IS

 

 

 

Rhannu’r adroddiad ar y costau sy’n gysylltiedig â chael diet heb glwten

TH

 

 

Rhannu’r cofnodion a’r dyddiadau posibl ar gyfer y cyfarfod nesaf

TH

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

26/04/22                                                                                                                                                                Tudalen 4 o 4